Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 22
Hydref 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
(45 munud)
(45 munud)
(5 munud)
NDM8697 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(15 munud)
NDM8698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo y gwneir y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) 2024 yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(60 munud)
NDM8695 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Gosodwyd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Mai 2024; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd ar 11 Hydref 2024.
Dogfennau Ategol
Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
NDM8696 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
(30 munud)
NDM8681 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 1 Hydref 2024.
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 23 Hydref 2024